WSM Blog
Meddwl am werthu ar-lein yn ystod eich astudiaethau?
Clywed sut datblygodd Azaria Anaman (BSc Cyfrifeg a Chyllid) ei busnes manwerthu yn y brifysgol. Rhestrodd Azaria ei busnes ar Farchnad Myfyrwyr Cymru ac roedd yn enillydd yng Ngwobrau Dechrau Busnes Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 2021
Beth wnaeth i chi ddewis dechrau busnes yn hytrach na chwilio am swydd i raddedigion?
Mae dechrau busnes yn rhywbeth yr wyf wedi bod eisiau ei wneud erioed gan fy mod wedi dechrau, roeddwn yn meddwl y dylwn gymryd cyfle arnaf fy hun a gweld pa mor bell y gallaf fynd gydag ef, yn enwedig er fy mod yn ifanc, ni fyddwn am edrych yn ôl a difaru peidio â manteisio ar y cyfle i adeiladu rhywbeth rwy'n angerddol amdano.
Oeddech chi'n teimlo'n nerfus/pryderus wrth fynd drwy'r broses? Sut wnaethoch chi oresgyn yr her honno?
Oeddwn! Dwi'n cofio ar y dechrau, buodd dechrau’n anodd. Gwnes i oresgyn hyn drwy fynd i weithdai Dyfodol Myfyrwyr er mwyn magu hyder ynof fi a'm syniad busnes, ac yn y pen draw gael ffrindiau, teulu a mentoriaid o'm cwmpas a'm hanogodd i barhau.
Ydych chi wedi cael cymorth gan Brifysgol Caerdydd? Ym mha ffurfiau?
Rwyf wedi cael digon o gefnogaeth gan y brifysgol, yn enwedig gan y Tîm Menter a Dechrau Busnes a oedd bob amser yn hapus i drafod pethau gyda mi a chynnig cyngor a llwybrau posibl i'm harchwilio a'm cyfeirio at gymorth a digwyddiadau.
A oes gennych unrhyw gyngor y gallwch ei roi i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dechrau busnes?
Ewch amdani! Mae bod yn ifanc a chael y cyfle i arbrofi gyda gwahanol bethau yn wych. Dydych chi byth yn gwybod i ba raddau y gallech chi ddod gydag ef ac efallai y byddwch yn darganfod angerdd yn y broses ac yn bendant yn datblygu llawer o sgiliau. Ac os nad yw'n gweithio allan, o leiaf rydych chi wedi rhoi cynnig arni!
Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich cwmni/gyrfa yn y dyfodol?
Ar gyfer fy musnes, fy ngweledigaeth ar hyn o bryd yw parhau i dyfu ac esblygu. Byddwn wrth fy modd i siopau stocio fy nghynhyrchion yn ogystal â mwy o artistiaid colur. Ar gyfer fy ngyrfa, rwy'n mwynhau bod yn hunangyflogedig a gobeithio, beth bynnag rwy'n ei wneud yn y dyfodol, fy mod yn mwynhau fy swydd!
A oes unrhyw beth yr oeddech yn dymuno i chi ei wybod wrth ddechrau?
Pa mor flinedig y gall fod. Gan bennu fy oriau fy hun, roedd yn hawdd iawn ymgolli mewn cant a mil o bethau. Ond hefyd, sut mae dechrau busnes yn gallu eich cyfoethogi. Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau a chyfoeth o brofiad drwy wneud hyn nad wyf yn credu y gallwn fod wedi’u cael yn gwneud unrhyw beth arall.
Siŵr o fod, ni all cynnal busnes fel myfyriwr newydd raddio fod yn hawdd. Sut ydych chi'n rheoli eich holl ymrwymiadau? Oes gennych chi awgrymiadau ar gyfer cynnal eich lles?
Apiau calendr a chynllunwyr yw fy ffrindiau! Llawer o'r amser os nad ydw i wedi trefnu rhywbeth yn fy nghalendr, ni fydd yn digwydd - mae hyn hefyd yn golygu amserlennu gorffwys, cymdeithasu a hunanofal. O ran lles, rwy’n cymryd seibiannau, cynnal trefn arferol a myfyrio yn rheolaidd.
Cymerwch olwg ar fusnes Azaria, Eni Lashes.