Telerau ac Amodau

Marchnad Myfyrwyr Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol y byddwch chi’n ei ddarparu. Fe brosesir y data’n unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn prosesu eich data personol yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw. Neilltuwch funud neu ddau i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd

Pan fyddwch chi’n cofrestru ar-lein gyda, bydd Marchnad Myfyrwyr Cymru yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch chi’n ei roi i ddarparu’r wybodaeth a’r cymorth a nodwyd wrth i chi gofrestru. Mae hyn yn cynnwys anfon negeseuon e-bost atoch chi, dolenni i adnoddau ar-lein a digwyddiadau rhwydweithio, e-byst uniongyrchol sy’n berthnasol i ddechrau busnes ac anfon canllawiau atoch chi.

Rydym yn prosesu eich data yn unol â’r awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio yn Llywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth ieuenctid yn unol â’r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Prosesir eich data gan Marchnad Myfyrwyr Cymru 

Eich hawliau

  • Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl:
  • I gael mynediad i’r data Personol sydd gennym amdanoch;
  • I ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
  • Yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i wrthod neu gyfyngu ar brosesu;
  • Yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i ‘ddileu’ eich data;
  • Cofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau, eisiau rhagor o wybodaeth, neu eisiau gweithredu eich hawliau a restrir yn yr hysbysiad hwn cysylltwch â’n Swyddog Diogelu data os gwelwch yn dda trwy e bostio enterprise@cardiff.ac.uk
  • Eich gwybodaeth bersonol
  • Eich gwybodaeth bersonol
  • Gall y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gennych chi, gan sefydliad sy’n eich cyflwyno i’n rhaglenni neu sefydliadau eraill yr ydych yn cytuno i ni gysylltu â hwy. Gall y bydd y wybodaeth yn deillio o ffurfleni cais, llythyrau, ebyst neu negeseuon testun deunydd ysgrifenedig, neu drafodaethau.
  • Gall yr wybodaeth a gesglir gennym gynnwys:
  • Enw, cyfeiriad ebost a rhif ffôn, i’n galluogi i gysylltu â chi.

Diogelu eich gwybodaeth

  • Cedwir copïau o’ch data mewn lleoliadau diogel, a’u cyrchu gan bersonél awdurdodedig sydd angen gwybod y wybodaeth yn unig.
  • Gall y wybodaeth gael ei rhannu gyda thrydydd parti ar gyfer dibenion gweinyddol, rheoli a/neu gyflenwi gwasanaeth, ble mae’n angenrheidiol ac yn gyfreithlon i ni wneud hynny. Ym mhob achos dim ond y lleiafswm o wybodaeth fydd yn cael ei rannu, ac fe wneir hyn trwy ddefnyddio dulliau diogel megis cyfarfodydd wyneb yn wyneb a phost diogel 
  • Cedwir y data am 10 mlynedd wedi i Marchnad Myfyrwyr Cymru 2020 ddod i ben
  • Pan nad oes angen y wybodaeth rhagor, byddwn yn ei ddinistrio'n ddiogel

Awdurdod i gasglu a phrosesu eich gwybodaeth

  • O dan ddeddf Diogelu Data mae gennym y sail gyfreithlon ganlynol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol
  • mae’n angenrheidiol oherwydd rhesymau dilys, yn benodol ein galluogi i ddarparu'r gwasanaethau yr ydym wedi ein comisiynu i’w darparu gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill.

Rhannu eich gwybodaeth

Er mwyn eich cynorthwyo i gael y budd gorau o’r rhaglen, ac i gydymffurfio gyda’n rhwymedigaethau cytundebol, efallai y bydd angen i ni rannu peth o’ch gwybodaeth gyda sefydliadau/neu unigolion eraill.

Bydd y rhain yn cynnwys partneriaid sy’n gweithio gyda’i gilydd ar y Marchnad Myfyrwyr Cymru a restrir uchod.

Dim ond os oes gennym sail gyfreithiol fel y dangosir uchod neu pan ein gorfodir yn gyfreithiol y byddwn yn rhannu gwybodaeth

Os ydych yn  dymuno i ni beidio rhannu eich data gyda sefydliad neu berson penodol, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod os gwelwch yn dda, fel y gallwn nodi hyn ar ein cofnodion. Gallwch ychwanegu at /neu newid y rhestr yma ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu atom ( trwy lythyr, e-bost SMS) 

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn galluogi’r cyhoedd i ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.