Eni Lashes

Mae Eni Lashes yn frand estyniadau llygaid a cholur modern a’i ffocws yw gwella blew’r amrannau a grymuso pobl. Dim ond cynhyrchion di-greulon a figanaidd rydym ni’n eu gwerthu oherwydd does dim rhaid i chi fod yn greulon i fod yn garedig! Mae ein hestyniadau llygaid minc, sy’n addas i figaniaid ac yn ddi-greulon yn 0% minc ac yn 100% o Safon! Mae ein hestyniadau llygaid moethus yn cael eu gwerthu yn ein droriau nodedig a gellir ailddefnyddio pob un.

Rydym yn gwybod beth yw grym colur a sut y gall roi hyder i rywun, ond, rydym yn ymwybodol hefyd sut gall safonau harddwch afrealistig niweidio hunan-barch rhywun. Yn Eni Lashes, roeddem am gyfuno’r syniad bod colur yn arf grymus gan hyrwyddo pwysigrwydd harddwch mewnol ar yr un pryd.

Rydym am herio’r ffordd mae estyniadau llygaid yn cael eu defnyddio! Ydych chi’n credu bod estyniadau llygaid ar gyfer cwblhau steil colur crand yn unig? Meddyliwch eto!
Instagram
Eye lashes