Bethan Scorey
Mae fy mhrintiau a chardiau yn cynnwys darluniau manwl a lliwgar o adeiladau hanesyddol Caerdydd, gan gynnwys rhai enwog ac esiamplau o Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Daw pob eitem efo gwybodaeth hanesyddol am yr adeilad hwnnw, felly maent yn gwneud anrhegion gwych i neu gan bobl leol, neu i ddod a darn o hanes Caerdydd i mewn i'ch cartref.




