Cwestiynau Cyffredin

Beth sydd angen i mi ei gynnwys ar Farchnad Myfyrwyr Cymru?

Un o ofynion Marchnad Myfyrwyr Cymru yw bod â’ch gwefan eich hun neu blatfform gwerthu (fel Etsy, Shopify, eBay Shop, ac ati) sy’n gallu cymryd archebion a phrosesu taliadau. Rhaid i chi hefyd gael delweddau o’ch cynhyrchion a disgrifiad o’ch busnes hyd at 150 gair o hyd. 

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod y nwyddau rydych yn eu gwerthu yn cydymffurfio â’r safonau a gymeradwyir gan y Swyddfa Masnachu Teg a Swyddogion Safonau Masnach lleol https://www.gov.uk/government/organisations/office-of-fair-trading 

Y rheoliadau gwerthu o bell https://www.gov.uk/online-and-distance-selling-for-businesses/online-selling 

Safonau Bwyd Gwerthu o Bell

https://www.food.gov.uk/business-guidance/distance-selling-mail-order-and-delivery 

Dydw i ddim yn gwybod sut i greu fy ngwefan fy hun? Allwch chi helpu?

Mae gan bob sefydliad eu Hyrwyddwr Menter ei hun sy’n gallu eich helpu i baratoi ar gyfer ymarfer masnachu. Bydd angen i chi gysylltu â’ch Hyrwyddwr Menter i’ch helpu gyda hyn. 

Am ba hyd y bydd fy musnes ar Farchnad Myfyrwyr Cymru?

Byddwch ar Farchnad Myfyrwyr Cymru am hyd at 12 mis. Cewch gyflwyno cais i ymestyn neu leihau’r cyfnod hwn fel y gwelwch yn dda. Caiff Marchnad Myfyrwyr Cymru ei monitro’n rheolaidd a bydd unrhyw ddolenni nad ydynt yn gweithio neu’n creu neges sy’n rhoi gwall yn cael eu tynnu o’r safle.

Rwyf wedi cyflwyno fy manylion ar y ffurflen gofrestru ond nid wyf yn gweld fy musnes?

Bydd pob sefydliad yn cymeradwyo’r cais i restru cyn ei gyflwyno i dîm gweinyddol Marchnad Myfyrwyr Cymru. Gall gymryd hyd at 72 awr nes bydd eich busnes yn “fyw” ar Farchnad Myfyrwyr Cymru. Bydd unrhyw gamgymeriadau neu wybodaeth ar goll yn achosi oedi neu’n golygu na all tîm gweinyddol Marchnad Myfyrwyr Cymru gymeradwyo’r cais.

A fydd tîm gweinyddol Marchnad Myfyrwyr Cymru yn delio’n uniongyrchol â fy nghwsmeriaid? 

Y gwerthwr sy’n gyfrifol am brosesu archebion, prosesau talu a gwasanaeth cwsmeriaid. Nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd nac unrhyw goleg addysg bellach, sefydliadau neu brifysgolion yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros y cytundeb rhwng y gwerthwr a’r cwsmer.

 phwy ddylen i gysylltu i gael gwybod rhagor am Farchnad Myfyrwyr Cymru?

Gallwch gysylltu â hyrwyddwr menter eich sefydliad neu ebostio entrepreneurship@cardiffmet.ac.uk